Header Ads

Covid-19: Ffigyrau yn cofnodi un farwolaeth arall



Profion coronafeirwsImage copyright
Getty Images

Mae yna un farwolaeth yn rhagor wedi ei chofnodi yn gysylltiedig gyda coronafeirws yng Nghymru, gan ddod a’r cyfanswm i 1,476.

Yn ôl ffigyrau Iechyd Cyhoeddus Cymru roedd yna 25 o achosion positif newydd yn ystod yr un cyfnod, gan olygu fod cyfanswm o 15,026 wedi cael eu heintio gyda Covid-19 yng Nghymru.

Cafodd y farwolaeth ddiweddara ei chofnodi yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn y gogledd.

Hyd yn hyn, mae yna 119,449 o unigolion wedi eu profi, gyda 104,423 o’r rhain yn negyddol.

Mae cyfanswm o 147,881 o brofion wedi eu cynnal, gyda rhai pobl yn cael eu profi fwy nag unwaith.

Wrth gyhoeddi’r ffigyrau am y 24 awr rhwng 13:00 18 Mehefin ac 13:00 19 Mehefin dywedodd Iechyd Cyhoeddus Cymru bod problem dechnegol yn golygu nad dyma yw gwir gyfanswm y profion a gafodd eu cynnal yn ystod y cyfnod hwnnw.

Bydd y nifer cywir yn cael eu cyflwyno pan fydd y nam technegol yn cael ei wirio, meddai llefarydd.





Source link



from WordPress https://ift.tt/2YhaQac

No comments

Theme images by tomograf. Powered by Blogger.