Header Ads

Prifysgolion yn astudio DNA paill i geisio deall clefyd y gwair



Clefyd gwairImage copyright
Mandy Jones Photography

Mae dwy brifysgol yng Nghymru yn rhan o brosiect ymchwil allai helpu dioddefwyr clefyd y gwair ledled y Deyrnas Unedig.

Mae ymchwilwyr o brifysgolion Aberystwyth a Bangor yn astudio DNA paill er mwyn gwahaniaethu rhwng gwahanol fathau o baill glaswellt.

Maen nhw’n astudio’r DNA oherwydd hyd yn oed wrth edrych ar baill o dan y microsgop mwyaf pwerus mae gwahanol fathau yn ymddangos union yr un fath – ond gall rhai effeithio ar ddioddefwyr clefyd y gwair yn fwy nag eraill.

Hefyd, mae gwahanol fathau o wair yn blodeuo ac yn rhyddhau eu paill ar wahanol adegau ac er y gall paill bara am amser hir, mae’n gwasgaru’n eithaf cyflym fel nad yw’n bresennol yn yr un lle ar ôl ychydig wythnosau.

Gobaith yr ymchwilwyr yw nodi pa fathau o baill glaswellt sy’n achosi’r adweithiau alergaidd mwyaf cyffredin.

Eu nod yw darparu gwell gwybodaeth i ddioddefwyr a hefyd o bosibl osgoi’r rhywogaethau hynny pan fydd caeau neu ardaloedd o laswelltir yn cael eu creu wrth adeiladu ysgolion neu ystadau tai.

Mae’n cael ei amcangyfrif bod tua 13 miliwn o ddioddefwyr clefyd y gwair ledled y DU.

Yn ôl elusen Allergy UK, fe allai gostio £7bn i’r economi mewn cynhyrchiant coll pan fydd rhaid i bobl gymryd amser i ffwrdd o’r gwaith pan fydd eu symptomau ar eu gwaethaf.

Yn ogystal â’r sefydliadau yng Nghymru, mae prifysgolion yng Nghaerwrangon a Chaerwysg hefyd yn rhan o’r prosiect.



Image caption

Mae’r ymchwil yn rhoi darlun o sut mae paill yn amrywio dros y DU, yn ôl Dr Gareth Griffiths

Mae’r ymchwilwyr hefyd yn gweithio gyda’r Swyddfa Dywydd i ddefnyddio trapiau casglu paill i ddal y mathau gwahanol sydd yn yr awyr ar adegau penodol.

Yna gallan nhw groesgyfeirio’r wybodaeth honno gyda data o feddygfeydd ac ysbytai sy’n dangos yr adegau pan fydd pobl yn gofyn am wrth-histaminau i drin clefyd y gwair, neu yn gorfod mynd i’r ysbyty gyda symptomau mwy difrifol.

Yn y dyfodol maen nhw’n gobeithio y bydd rhagolygon y tywydd – yn ogystal â nodi a yw lefelau paill yn isel, canolig neu’n uchel – hefyd yn gallu cynnwys mwy o fanylion am y gwahanol fathau o baill sydd mewn ardaloedd gwahanol.

Osgoi rhywogaethau alergenig

“Gallwn ddyfalu pryd mae paill yn cael ei ryddhau o weld pryd mae’r gwahanol laswelltau’n blodeuo,” meddai Dr Gareth Griffiths o Sefydliad y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig ym Mhrifysgol Aberystwyth.

“Ond mae’r data sydd gennym ni ar ôl i ni ddal y grawn paill o’r awyr ac yna dadansoddi’r DNA yn dweud wrthym yn union pa gyfrannau o bob math o laswellt sydd yn yr aer, a hefyd sut mae hynny’n amrywio o’r gogledd i’r de a’r dwyrain i’r gorllewin ar draws ynysoedd Prydain.”



Image copyright
Prifysgol Bangor

Image caption

Un nod ydy darganfod pa rywogaethau i’w hosgoi pan yn datblygu ysgolion neu dai, yn ôl yr Athro Simon Creer

Dywedodd yr Athro Simon Creer, o Brifysgol Bangor: “Os gallwn adnabod y rhywogaethau o laswellt sy’n cyfrannu mwy at y llwyth alergenig yna mae hynny’n dweud wrthym sut y gallwn geisio osgoi’r rhywogaethau hynny pryd bynnag y bo modd.

“Os gwelwn bigyn mewn math arbennig o baill ar yr un pryd ag y mae clefyd y gwair yn cynyddu gallwch weithio allan ble mae’r mannau gwaethaf a pha baill sydd yn yr ardal honno.”

Ychwanegodd yr Athro Creer y gallai’r ymchwil hyd yn oed ymestyn i wneud argymhellion i wneuthurwyr tyweirch a chynhyrchwyr hadau glaswellt ynghylch pa rywogaethau o laswellt sy’n achosi’r symptomau gwaethaf, a allai olygu cynghori datblygwyr i’w hosgoi wrth adeiladu ysgolion, ysbytai newydd neu ystadau tai.

Source link



from WordPress https://ift.tt/30YKlYZ

No comments

Theme images by tomograf. Powered by Blogger.